Canmlwyddiant yng Nghymru
Dathlu 100 mlynedd o Gweithredu dros Blant
Agorodd gwasanaeth cyntaf Gweithredu dros Blant yng
Nghymru ar 2 Ionawr 1911, yn 85-87 Heol Casnewydd,
Caerdydd.
Roedd yn gartref i ferched ifanc, ac roedd yn darparu gofal,
lloches ac addysg iddynt, yn ogystal â chyfleoedd gwaith a
hyfforddi. Sefydlwyd y cartref yn wreiddiol yn 1883 gan Gymdeithas
y Merched Caerdydd a'r Fro, ac roedd 13 o ferched eisoes yn
preswylio yno yn ogystal â dau letywr pan gymerodd Gweithredu dros
Blant yr awenau.
Bu Heol Casnewydd yn gartref i gannoedd o ferched rhwng 1911 a
1933. O'r fan hyn, tyfodd ein gwasanaethau ac rydym ni nawr yn
darparu dros 130 o wasanaethau i dros 15,000 o'r plant a'r bobl
ifanc sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n cael eu hesgeuluso, a'u
teuluoedd, mewn cymunedau lleol hyd a lled Cymru.
Y plant
Roedd y cartrefi cynnar yng Nghymru yn llefydd diogel,
cysurus a sefydlog i gannoedd o blant.
Fe wnaethant gynorthwyo plant i ddatblygu'r sgiliau yr oedd eu
hangen arnynt fel oedolion. Dyma Nigel O'Nions, disgybl yn Ysgol
Coomb yn 1940, yn hel atgofion am ei brofiad: "Aed â mi i Coomb ym
Mehefin 1940, yn fachgen naw mlwydd oed. Rwy'n cofio nad oeddwn
wedi cael digon o faeth ac nad oeddwn yn gallu gofalu amdanaf fy
hun yn dda, ond unwaith y cyrhaeddais Coomb, roedd yn nefoedd.
"Ar ôl cael yr hanfodion, cefais fy lleoli yn Candlestone House.
Roedd oddeutu 12 bachgen ym mhob tŷ, ac roedd Chwaer yn gyfrifol am
bob tŷ. Fe wnes ymgartrefu yn Coomb yn sydyn iawn o'r hyn a gofiaf
i. Roedd y bwyd yn dda a digon ohono, roedd gen i wely glân a braf,
ac roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael gofal.
"Mr William Clark oedd pennaeth yr ysgol; disgyblwr llym a
sbortsmon amryddawn a brwd a oedd yn cymryd diddordeb ym mhopeth a
oedd yn digwydd. Rwy'n dal i edmygu'r dyn hwn yn fawr, y dyn a oedd
yn gyfrifol am lunio fy mywyd a rhoi i mi'r hyder yr oedd arna' i
ei wir angen."
Y cartrefi
Agorodd gwasanaeth cyntaf Gweithredu dros Blant yng
Nghymru ar ddydd Llun, 2 Ionawr, 1911.
Heol Casnewydd, Caerdydd: 1911
Cartref i ferched ifanc, yn 85-87 Heol Casnewydd, Caerdydd.
Abermaw, Gwynedd: 1918
Roedd Abermaw yng Ngogledd Cymru yn encilfa i Chwiorydd (staff
hyfforddedig a oedd yn gweithio yn y cartrefi) a staff eraill, yn
rhywle iddynt gael seibiant ac ymlacio.
Headlands, Penarth, Caerdydd: 1918
Rhoddodd teulu'r Gibbs Westy Penarth i ni, i addysgu a hyfforddi
bechgyn ar gyfer y môr. Mae'r safle yn awr yn ysgol Gweithredu dros
Blant.
Sea View, Penarth, Caerdydd: 1933
Cafodd Sea View, rhodd gan y teulu Cory, ei redeg yn llwyddiannus
tan yr 1940au pan gafodd ei ddifrodi'n ddrwg mewn cyrch awyr a bu'n
rhaid ei gau am weddill y rhyfel. Cafodd y plant i gyd eu symud i
ddiogelwch cartrefi eraill ym mis Mawrth 1941.
Coomb, Caerfyrddin: 1940
Agorodd Coomb fel Ysgol Warchod gofrestredig ac roedd yn gartref i
fechgyn yr oedd eu tadau yn y lluoedd arfog.
Clarendon, Caerdydd: 1946
Rhoddodd un o gyn arglwydd feiri Caerdydd 'Clarendon' i'r elusen.
Roedd yn un o'n canghennau lleiaf, gyda lle i 14 o blant yn
unig.
Killay House, Abertawe: 1948
Roedd Killay House yn darparu ar gyfer 30 o blant a oedd yn byw
mewn grwpiau teulu. Adeiladwyd hostel, George Thomas House, ar y
tir yn ddiweddarach, a oedd yn cynnig llety i bobl ifanc a oedd yn
gadael gofal. Heddiw, mae dau o wasanaethau Gweithredu dros Blant
yn cael eu rhedeg o'r safle hwn.
Ardwyn, Dinas Powys, Caerdydd: 1959
Rhoddwyd 'Ardwyn' gan Mrs L Lilie o Ddinas Powys. Roedd yn darparu
mannau diogel i blant chwarae.
Glan-y-Môr, Y Rhyl, Gogledd Cymru Wales:
1986
Cychwynnodd canolfan deuluoedd Glan-y-Môr yn y Rhyl mewn
portacabin, cyn symud i'w leoliad presennol, a agorwyd gan
lysgennad Gweithredu dros Blant, Nerys Hughes.
Drws y Nant, Caernarfon: 2009
Drws y Nant yw prosiect diweddaraf Gweithredu dros Blant yng
Nghymru. Mae'n wasanaeth preswyl i bobl ifanc; dim ond un o dros
130 o wasanaethau Gweithredu dros Blant sy'n cefnogi'r plant, y
teuluoedd a'r cymunedau sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n cael eu
hesgeuluso yng Nghymru heddiw.
Y llyfr log
Llyfr Log Heol Casnewydd
Mae llyfr log Heol Casnewydd yn sôn am fywyd bob dydd yn yr
hostel i ferched rhwng 1911 ac 1941, ac felly mae'n un o'r eitemau
mwyaf gwerthfawr yn ein casgliad archif. Mae'n rhoi darlun diddorol
i ni o gychwyn cyntaf ein gwaith yng Nghymru, yn ogystal â'r hanes
cymdeithasol yn union cyn a rhwng y ddau ryfel byd.
Mae'r log yn rhoi gwybod i ni am y merched, a oedd yng nghanol eu
harddegau gan fwyaf, a sut roedden nhw'n cael gofal gan Chwiorydd y
Plant. Roedd rhai yn aros yn y cartref ac eraill yn ymweld bob dydd
i ddysgu sgiliau a fyddai'n eu paratoi at gael gwaith yn y dyfodol.
Mae'r log hefyd yn cofnodi digwyddiadau hwyliog fel partïon,
teithiau i'r traeth a gwyliau.
Yn ddiddorol, ceir cyfeiriadau at 'y teulu' yn aml yn y log wrth
gyfeirio at ferched Heol Casnewydd. Roedd hyn yn ethos cyffredin ar
draws y mudiad, a oedd yn atgyfnerthu dymuniad Stephenson wrth
sefydlu'r cartref, sef y dylai'r plant yn y cartrefi deimlo eu bod
yn rhan o uned deulu, yn hytrach nag yn rhan o sefydliad.
Yn 1933, mae cofnod yn y log yn nodi bod y Cartref wedi symud i
safle newydd o'r enw "Sea View" ym Mhenarth, ger bae Caerdydd.
Roedd y cartref hwn yn agos at Ysgol Forwrol JA Gibbs, a ddaeth yn
Ysgol Headlands yn ddiweddarach, ac mae'r cartref yn cael ei redeg
gan Action for Children Gweithredu dros Blant o hyd.
Mae'r cofnod ar gyfer 3ydd Medi 1939 yn nodi dechrau'r Ail Ryfel
Byd, a cheir cofnod o gyfarfod brys ym mis Mawrth 1941 a oedd yn
galw am wagio'r Cartref. Mae'r cofnodion olaf yn y llyfr log yn
rhoi gwybod i ni fod y merched wedi cael eu symud i rywle diogel yn
ystod y rhyfel.
Y dyfodol yng Nghymru
Heddiw, mae Gweithredu dros Blant yn rhedeg dros 130 o
wasanaethau ar draws 50 o safleoedd.
Rydym nawr yn cefnogi dros 15,000 o'r plant a'r bobl ifanc sydd
fwyaf agored i niwed ac sy'n cael eu hesgeuluso, a'u teuluoedd,
mewn cymunedau lleol hyd a lled Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda
phlant a phobl ifanc sydd mewn gofal, sy'n anabl, y mae eu teulu
angen cefnogaeth, neu sy'n profi anawsterau sylweddol yn eu
bywydau, gan roi'r cyfle iddynt gyflawni eu potensial.
Yr hyn y mae Gweithredu dros Blant yn canolbwyntio arno fwyaf yn
ei waith yw darparu gwasanaethau cefnogi i deuluoedd, ac rydym ni'n
gweithio gyda 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r ffaith
bod Drws y Nant, uned breswyl i bobl ifanc, wedi agor yn ddiweddar
yn adlewyrchu pa mor berthnasol yw ein gwasanaethau, yr angen am
ein gwasanaethau a pharhad ein gwasanaethau yng Nghymru ar ôl can
mlynedd, felly byddwn yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn cyhyd
ag y bo angen.