email newsletteremail newsletter

 

Amdanom ni

Woman with babyMae Gweithredu dros Blant wedi ymrwymo i helpu'r plant a'r bobl ifanc yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso, i oresgyn anghyfiawnder, amddifadedd ac anghydraddoldeb fel y gallant gyflawni eu potensial yn llawn.

Mewn partneriaeth â'r Eglwys Fethodistaidd, rydym wedi bod yn cefnogi ac yn gweithio gyda'r plant mwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso, a hynny am 140 o flynyddoedd ar draws y DU ac am 100 o flynyddoedd yng Nghymru.

Cawsom ein sefydlu ym 1869, dan yr enw 'Cartref i Blant Cenedlaethol' (National Children's Home) yn wreiddiol. Ond ym mis Medi 2008, newidiwyd ein henw i un sy'n disgrifio ein gwerthoedd a'r hyn rydym yn ei wneud yn well - Gweithredu dros Blant.

Rydym yn gweithio gyda bron i 12,000 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy 123 o wasanaethau ar draws 45 o brosiectau yng Nghymru.

Heddiw, rydym yn un o'r prif ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru. Rydym yn cynnig gwasanaethau maethu a seibiannau byr, gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n gadael gofal.
Mae ein gwirfoddolwyr yng Nghymru yn codi arian drwy ddigwyddiadau a nawdd gan gwmnïau.

Mae ein gweledigaeth yn cynnwys byd lle mae'r holl blant a phobl ifanc yn meddu ar ymdeimlad o berthyn ac yn cael eu caru a'u gwerthfawrogi, yn llywio eu ffawd eu hunain ac yn mwynhau pleserau bywyd.

Ein gwerthoedd

Angerdd - ein dymuniad i gynorthwyo plant a phobl ifanc i oresgyn anghyfiawnder ac anfantais sy'n ein hysgogi

Cydraddoldeb - rydym yn credu bod pob un plentyn a pherson ifanc yn gydradd o ran gwerth ac yn meddu ar hawliau cyfartal

Gobaith - rydym yn credu ym mhotensial plentyn neu berson ifanc, pa beth bynnag y maent wedi ei brofi neu'r hyn y maent wedi ei wneud

Cenhadaeth weithredol

Mae Gweithredu dros Blant yn diwallu anghenion y plant a'r bobl ifanc hynny mae gwir angen cymorth arnynt er mwyn cyflawni eu potensial llawn. Drwy ein gwaith a drwy siarad yn gyhoeddus, rydym yn ceisio chwalu'r cylch o amddifadedd. Rydym yn herio anghyfiawnder ac yn galluogi plant i oresgyn y rhwystrau yn eu bywydau sy'n eu dal yn ôl. Rydym yn teilwra ein gwaith i amgylchiadau lleol, mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, teuluoedd, cymunedau a mudiadau lleol.

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc:

  • y mae angen cymorth ar eu teuluoedd
  • nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd naturiol
  • sy'n anabl
  • sy'n profi trafferthion difrifol yn eu bywydau