Cymryd rhan
Mae nifer o bethau
y gallwch chi eu gwneud er mwyn helpu plant a phobl ifanc yng
Nghymru sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu
hesgeuluso.
Gallwch chi ganfod digwyddiad sy'n addas i chi - o
giniawau i rasys marathon, mae rhywbeth yn cael ei gynnal drwy'r
amser. Efallai fod modd i'ch cwmni gymryd rhan drwy ddatblygu
partneriaeth elusen gyda ni? Neu efallai y byddai'n well gennych
chi helpu drwy ymgyrchu.
Neu os nad yw hynny'n ddigon, gallwch chi gymryd
rhan drwy godi arian - gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau a
helpu'r plant y mae gwir angen arnynt yr un
pryd.
Os hoffech chi gymryd rhan yn uniongyrchol, gallwch
chi roi eich amser drwy wirfoddoli neu faethu.
Rydym yn dathlu canmlwyddiant ein prosiect cyntaf
yng Nghymru eleni, ac rydym wir yn ei gwneud hi'n flwyddyn arbennig
i bawb! Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei
wneud er mwyn cymryd rhan ar ein tudalen
Cymru 100.