email newsletteremail newsletter

 

Ein gwasnaethau

Family sat at bench smilingGyda mwy na 140 o flynyddoedd o brofiad, rydym yn gallu gweithio gyda chi er mwyn darparu gwasanaethau hyblyg, effeithiol ac arloesol i blant ar draws Cymru.

Pam gweithio gyda ni?

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, cymunedau a mudiadau lleol i ddarparu'r gwasanaethau gorau i blant a phobl ifanc mae eu hangen fwyaf arnynt.

  • Mae dyletswydd arnom i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a'u cadw'n ddiogel.
  • Mae gennym weithdrefnau ar waith er mwyn i'r holl staff, gwirfoddolwyr a gofalwyr wybod sut mae ymateb.
  • Rydym yn gweithio gyda mudiadau er mwyn darparu gwasanaethau ymatebol a hyblyg i gomisiynwyr.
  • Rydym yn gwerthuso ein gwasanaethau ac yn cynnal ymchwil fewnol ac allanol er mwyn i ni fesur y gwahaniaeth rydym yn ei wneud i fywydau plant.

Ein gwasanaethau

Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol er mwyn gwella bywydau'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso.

  • Ni yw'r prif ddarparydd canolfannau plant yn y sector gwirfoddol.
  • Rydym yn dod o hyd i deuluoedd i blant a phobl ifanc drwy faethu, mabwysiadu a seibiannau byr gyda theuluoedd.
  • Rydym yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc ag anableddau.
  • Rydym yn targedu ac yn helpu'r plant sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu heithrio'n gymdeithasol.
  • Mae gennym ysgolion i helpu'r rheini sydd â'r anghenion mwyaf heriol i gyflawni eu potensial llawn, megis Ysgol Headlands ym Mhenarth ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed sy'n cael trafferth rheoli eu hymddygiad.

Gwasanaethau ymgynghori

Rydym yn cynnig cyngor a gwasanaeth ymgynghori i'ch helpu chi yn eich gwaith gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn helpu â datblygiad strategol, gwella perfformiad ac arferion, gwerthuso a hyfforddiant. Mae ein cleientiaid yn cynnwys asiantaethau'r llywodraeth a mudiadau sector cyhoeddus.

Mwy o wybodaeth

Telephone -iconE-bostiwch neu ffoniwch ni ar 02920 221127.