email newsletteremail newsletter

 

Hygyrchedd

Rydym am i bawb gael gafael ar yr wybodaeth sydd ar y safle hwn. Dyma rywfaint o gyngor ar sut mae gwneud hyn yn haws.

Defnyddio'r bysellfwrdd yn hytrach na'r llygoden

Gallwch chi ddefnyddio'r fysell 'tab' er mwyn mynd drwy'r holl ddolenni ar y dudalen. Pwyswch ENTER neu'r fysell 'return' ar ôl i chi gyrraedd y ddolen gyswllt o'ch dewis. Mae'r bysellau hwylus yn ei gwneud hi'n haws cyrraedd y tudalennau allweddol. Maent yn cynnwys:

?S = Anwybyddu gwe-lywio
1 = Hafan
2 = Beth rydym yn ei wneud
3 = Beth allwch chi ei wneud
4 = Newyddion / blog
5 = Adnoddau
6 = Canolfan gyfryngau
7 = Cofrestru
8 = Cysylltwch â ni
9 = Map o'r safle
0 = Hygyrchedd (y dudalen hon)

Sut mae defnyddio bysellau hwylus

Internet Explorer (PC)

Rhaid dal y fysell ALT i lawr, pwyso'r fysell hwylus ac yna pwyso ENTER

Internet Explorer (Mac)

Rhaid dal y fysell Ctrl i lawr a phwyso'r fysell hwylus.

Firefox (PC)

Rhaid dal y fysell ALT i lawr a phwyso'r fysell hwylus

Firefox (Mac)

Rhaid dal y fysell Ctrl i lawr a phwyso'r fysell hwylus

Safari (Mac)

Safari (Mac): Rhaid dal y fysell Ctrl i lawr a phwyso rhif y fysell hwylus

Newid maint y testun

Gallwch chi newid maint y testun sydd ar y wefan i gwrdd â'ch gofynion eich hun.

Internet Explorer

Rhaid dal y fysell Ctrl i lawr a phwyso'r bysellau + neu - i wneud y testun yn fwy neu'n llai. Gallwch chi hefyd glicio'r ddewislen 'View' ac yna dewis 'Text Size'. Cliciwch y maint testun mae ei angen arnoch.

Firefox

Defnyddwyr PC: Rhaid dal y fysell Ctrl i lawr a phwyso'r bysellau + neu - i wneud y testun yn fwy neu'n llai.
Defnyddwyr Mac: Rhaid dal y fysell Cmd i lawr a phwyso'r bysellau + neu - i wneud y testun yn fwy neu yn llai o faint.

Safari
Cliciwch y ddewislen 'View' ac yna dewiswch Make Text Bigger neu Make Text Smaller.

Newid lliwiau a ffontiau

Gallwch chi newid y testun, lliw'r cefndir a'r ffontiau sy'n ymddangos ar wefan.

Internet Explorer

Cliciwch y ddewislen Tools, yna Internet Options. Gallwch chi newid y lliw a'r ffont yma. Os byddwch yn clicio'r botwm Accessibility, gallwch chi anwybyddu'r lliwiau, y mathau gwahanol o ffont a maint y ffont ar y wefan rydych yn edrych arni. Gallwch chi hefyd ddefnyddio eich taflen arddull eich hun er mwyn edrych ar wefannau gan ddewis eich fformat eich hun.

Firefox

Cliciwch y ddewislen 'Tools', yna 'Options'. Cliciwch y botwm 'Fonts & Colours' er mwyn newid y gosodiadau.