
Newyddion
Mae ein canolfan
gyfryngau yn y DU yn darparu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf
ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau ynghylch ein gwaith
â'r plant a'r bobl ifanc yn y DU sydd fwyaf agored i niwed ac sydd
wedi eu hesgeuluso.
Ewch i adran
Newyddion ein prif safle er mwyn darllen y newyddion diweddaraf
gan Gweithredu dros Blant (nodwch fod ein holl straeon
newyddion yn Saesneg).
Ffeithiau a ffigyrau ar gyfer y
cyfryngau
- Rydym wedi bod yn cefnogi plant a phobl ifanc y mae
tlodi, anabledd, camdriniaeth neu esgeulustod wedi effeithio arnynt
am fwy na 140 o flynyddoedd.
- Yng Nghymru, rydym yn gweithredu drwy helpu bron i
12,000 o blant a phobl ifanc a'u teuluoedd drwy fwy na 123 o
wasanaethau sy'n gweithio ar draws 45 o brosiectau bob
blwyddyn.
- Mae gennym 19 o ganolfannau plant a theuluoedd drwy
Gymru yn darparu cyngor rhianta, lle diogel i deuluoedd i chwarae
ac i ddysgu sgiliau, testunau a gwybodaeth
newydd.
- Ar gyfer y cyfnod 2009-10, roeddem wedi cynnig
cymorth ôl-ofal i oddeutu 104 o bobl a oedd yn gadael gofal yng
Nghymru.
- Mae gan bedwar y cant o blant o dan 16 oed sy'n byw
yng Nghymru salwch cyfyngus hirdymor (Ffynhonnell: Monitor
Lles Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru
2008).
Cysylltiadau yn y
cyfryngau
Mae modd i chi roi llais i'r plant
a'r bobl ifanc yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi
eu hesgeuluso drwy adrodd eu stori. O ffeithiau a ffigyrau i
astudiaethau achos gwych, mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei
hangen arnoch.
Mae'r cyswllt cyfryngau lleol i Gymru yn gweithio yn ein swyddfa
yng Nghaerdydd a gallwch ei ffonio ar 02920 222127.
Fel arall, ffoniwch ein tîm cyfryngau yn ein swyddfa yn Llundain
ar 020 7704 7111 neu e-bostiwch mediateam@actionforchildren.org.uk
Cylchlythyron
e-bost
Rydym yn cynhyrchu cylchlythyron
e-bost rheolaidd sy'n ymwneud ag ymgyrchoedd cyffrous, prosiectau
newydd, codi arian a digwyddiadau a newyddion Gweithredu dros
Blant.
Cliciwch y botwm ar y dde i gofrestru a byddwch yn cael e-bost
cadarnhau a bydd modd i chi osod eich ffefrynnau. Bydd hyn yn
rhoi caniatâd i chi dderbyn y negeseuon e-bost sy'n
berthnasol i'ch ardal leol chi ac sydd o ddiddordeb i chi yn
unig.
Nodwch y bydd yr holl ohebiaeth a
anfonir mewn negeseuon e-bost yn Saesneg.