email newsletteremail newsletter

 

Polisi ac Ymchwil

Rydym yn ymgyrchu ac yn lobïo er mwyn gwneud yn siŵr bod y plant sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso yng Nghymru yn flaenoriaeth i bobl sy'n llunio polisïau.

Ymyrraeth gynnar

Ers 2008, rydym wedi cyflwyno achos cryf dros ymyrraeth gynnar, ar sail ymchwil i berfformiad ein gwasanaethau a drwy apeliadau megis ein hymgyrch esgeulustod.

Adroddiadau

Gallwn brofi bellach fod buddsoddi nawr er mwyn hyrwyddo lles plant o fudd i'r cyhoedd, a hynny drwy adroddiadau megis Backing the future.

Tendrau ymchwil

Rydym yn defnyddio ymchwil er mwyn darparu sylfaen tystiolaeth ar gyfer ein gwaith polisi cyhoeddus ac ymgyrchu a drwy hynny lywio datblygiad ein gwasanaeth a rhannu arfer da.

Ymchwil sy'n cynnwys ein gwaith

Yn ogystal ag ymchwil sydd wedi ei chomisiynu gennym ni, rydym hefyd wedi'n cynnwys mewn ymchwil sy'n cael ei chynnal gan nifer o fudiadau allweddol yng Nghymru.

Gweithio gyda phrifysgolion

Mae gennym gysylltiadau strategol â nifer o sefydliadau academaidd er budd plant a phobl ifanc.

Cyhoeddiadau a briffio

Rydym yn cyflwyno ein gwybodaeth arbenigol ar faterion allweddol sy'n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Ymatebion

Rydym yn gwella bywydau plant a phobl ifanc ar draws Cymru sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso, a hynny drwy ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth.

Galw am newid

Mae gwybodaeth ar gael am y newidiadau rydym yn galw amdanynt o ran cymorth i deuluoedd, plant mewn gofal, plant anabl a phobl ifanc.

Partneriaethau

Mae clymbleidio gydag elusennau ac asiantaethau megis y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn hwyluso ein gwaith ac yn gwneud ein hymgyrchoedd yn fwy effeithiol.

Dogfennau polisi ac ymchwil

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau a'n hymchwil drwy ymweld â'r adran Polisi ac Ymchwil ar ein prif safle (nodwch y bydd yr adran hon yn Saesneg).