email newsletteremail newsletter

 

Preifatrwydd

Mae Gweithredu dros Blant wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ei gefnogwyr a'i randdeiliaid. Rydym yn cydymffurfio'n llawn gyda Deddf Diogelu Data 1998.

Sut rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol?

Dim ond pan fyddwch chi'n anfon gwybodaeth bersonol atom y byddwn ni'n ei defnyddio. Efallai y bydd hyn yn digwydd pan fyddwch yn cysylltu â Gweithredu dros Blant, yn cofrestru ar ein gwefan, yn gwneud cyfraniad neu'n cofrestru i dderbyn cylchlythyrau ar ffurf e-bost.

Lle mae hynny wedi'i ddatgan, efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu i gysylltu â chi yn y dyfodol am waith Gweithredu dros Blant. Os nad ydych chi am i ni wneud hyn, ticiwch y blwch priodol lle mae wedi'i ddarparu.

Beth rydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Mae'n rhaid i ni yn ôl y gyfraith yn sgil Deddf Diogelu Data 1998 sicrhau ein bod ond yn defnyddio'ch gwybodaeth at y diben y gwnaethpwyd y cais amdano a bod yr wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel.

Rydym yn gofalu ein bod yn sicrhau bod y modd rydym yn defnyddio eich data yn ddiogel - ac rydym yn gwella ein systemau a'n prosesau bob amser er mwyn gwneud yn siŵr bod eich data yn cael ei drin yn effeithiol ac yn ddiogel.

Os ydych chi wedi tanysgrifio i dderbyn cylchlythyrau ar ffurf negeseuon e-bost, byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon gwybodaeth atoch am faterion pwysig a newidiadau i'r wefan. Bydd pob e-bost yn rhoi'r dewis i chi stopio cael gwybodaeth gan Gweithredu dros Blant.

Os ydych chi wedi gwneud cais i gael gwybodaeth, dim ond i gyfathrebu â chi ynghylch yr wybodaeth hon yn y dyfodol y byddwn yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost a'r cyfeiriad post a ddarparwyd.

A fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â phobl eraill?

Yn achlysurol, rydym yn cytuno gyda mudiadau sydd wedi eu dewis yn ofalus i gysylltu â chefnogwyr ein gilydd ynghylch ein gwaith neu'n gwasanaethau. Pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen, byddwn yn gofyn a hoffech chi beidio â gwneud hyn. Os bydd achosion o gam-drin plant yn cael eu datgelu, byddwn yn gyrru gwybodaeth bersonol at wasanaethau cymdeithasol neu at yr heddlu.

Diweddaru eich gwybodaeth

Os hoffech newid y modd rydym yn cyfathrebu â chi drwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost unrhyw adeg, cysylltwch â ni:

Ffôn: 0300 123 2112 (ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: ask.us@actionforchildren.org.uk


Bydd unrhyw gais am newidiadau yn cael ei weithredu o fewn pum diwrnod gwaith - serch hynny, yn sgil y ffordd yr ydym yn dewis ac yn defnyddio data, efallai y bydd yn cymryd hyd at fis i wneud rhai newidiadau.

Defnyddio briwsion

Ffeil testun fach sydd ar eich porwr rhyngrwyd a'ch gyriant caled yw briwsionyn. Mae'n adnabod eich porwr mewn modd unigryw. Dim ond am resymau technegol ac nid i gasglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr rydym yn defnyddio briwsion ar ein gwefan.

Diogelwch

Mae Gweithredu dros Blant wedi ymrwymo i amddiffyn diogelwch eich data. Rydym yn defnyddio amryw o dechnolegau a gweithdrefnau diogelwch er mwyn helpu i rwystro pobl rhag cael mynediad heb awdurdod at eich gwybodaeth bersonol a'i defnyddio neu ei datgelu. Er enghraifft, rydym yn cadw'r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu mewn gweinyddion cyfrifiadur gyda mynediad sydd wedi'i gyfyngu ac sydd wedi ei leoli mewn cyfleusterau sy'n cael eu rheoli. Mae ein gwefan yn cael ei chynnal gan systemau gweithredu diogel, sydd wedi'u cymeradwyo yn y diwydiant. Yn ogystal â diogelwch ffisegol, mae systemau waliau tân a darganfod tresmaswyr ar waith i ddarparu ymateb cyflym os bydd ymosodiad.

Ein gwybodaeth

Mae Gweithredu dros Blant wedi darparu'r wybodaeth ar y wefan hon i unigolion a mudiadau sydd am ganfod mwy am faterion sy'n ymwneud â gofal plant, gwaith Gweithredu dros Blant a sut mae chwarae rhan.

Tra ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir, ni ellir dal yr awduron na Gweithredu dros Blant yn gyfrifol am unrhyw weithredoedd sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Efallai y byddwn yn diwygio'r polisi hwn o dro i dro. Byddwn yn nodi'n glir ar ein gwefan os bydd newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn:0300 123 2112 (ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost:
ask.us@actionforchildren.org.uk