Telerau ac amodau
Mae'r ffaith eich bod yn defnyddio'r safle hwn yn
cydnabod eich bod yn derbyn y telerau ac amodau canlynol ar amser a
dyddiad y tro cyntaf i chi ddefnyddio'r safle.
1. Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r
safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig ac mewn modd na fydd yn
tramgwyddo ar hawliau, yn cyfyngu, neu'n atal defnydd a mwynhad o'r
safle gan unrhyw drydydd parti.
2. Mae Gweithredu dros Blant yn
cadw'r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy
gyhoeddi'r fath newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o'r
safle hwn ar ôl i ni gyhoeddi'r newidiadau yn gydnabyddiaeth o'ch
parodrwydd i dderbyn bod y cytundeb hwn wedi'i
ddiwygio.
3. Mae'r safle hwn a'r wybodaeth, yr
enwau, y delweddau a'r logos sy'n ymwneud â Gweithredu dros Blant
yn cael eu darparu 'fel ag y maent' heb unrhyw gynrychiolaeth neu
gymeradwyaeth nac unrhyw warant o unrhyw fath - boed hynny'n glir
neu'n ymhlyg. Ni fydd Gweithredu dros Blant - mewn unrhyw
achos - yn atebol am unrhyw niwed, gan gynnwys heb
gyfyngu, unrhyw niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu
unrhyw niwed sy'n deillio o ddefnydd neu mewn cysylltiad â'r fath
ddefnydd neu golled drwy ddefnyddio'r safle, boed yn y cytundeb neu
drwy esgeulustod.
4. Nid yw Gweithredu dros Blant yn
gwarantu bod y swyddogaethau sydd wedi eu cynnwys yn y deunydd sydd
ar y safle hwn yn ddi-dor neu'n ddi-fai, bod diffygion i'w cywiro,
neu nad yw'r safle neu'r gweinydd sy'n ei gynnal yn cynnwys unrhyw
feirws neu chwilod neu'n cynrychioli swyddogaethau llawn, cywirdeb
a dibynadwyedd y deunyddiau.
Gweithgarwch
SMS
Mae'r gwasanaeth SMS hwn yn cael ei ddarparu ar ran
Gweithredu dros Blant gan ddarparwr trydydd
parti.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw oedi neu fethiannau o safbwynt
derbyn eich negeseuon testun, gan fod anfon neges yn dibynnu ar
eich gweithredwr rhwydwaith a'u prosesu gan eich ffôn
symudol.
Tariffau
Cyfrannu
Negeseuon testun cyfradd
premiwm
Bydd Gweithredu dros Blant yn
defnyddio'r symiau bras isod gan bob un o'r prif rwydweithiau am
gyfraniadau SMS:
Neges destun £0.50 = cyfraniad o £0.26
Neges destun £1 = cyfraniad o £0.60
Neges destun £3 = cyfraniad o £1.90
Neges destun £5 = cyfraniad o £3.20
Negeseuon testun cyfradd
safonol
Ni fydd Gweithredu dros Blant
yn derbyn unrhyw daliad gan rwydweithiau am negeseuon testun
cyfradd safonol. Ni fydd Gweithredu dros Blant yn ymddangos fel
anfonwr y neges ar y bil ffôn. Yn hytrach, bydd y rhif
yr anfonwyd y neges destun iddo(82727 neu 83010) yn
ymddangos.
Cyfrinachedd
Mae'n
bosib y bydd data a ddarperir gennych yng nghyswllt
y gwasanaeth SMS hwn yn cynnwys eich rhif ffôn symudol, enw
eich cludwr, a dyddiad, amser a chynnwys eich negeseuon ac unrhyw
wybodaeth arall y byddwch chi'n ei darparu. Drwy ddefnyddio'r
gwasanaeth, rydych yn cydsynio i dderbyn mwy o ddeunydd cyfathrebu
gennym o dro i dro. Mae'n bosib i chi ganslo eich tanysgrifiad o'r
holl wasanaethau unrhyw adeg drwy anfon FINISH i'r rhif gwreiddiol
y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i anfon eich neges destun (naill ai
82727 neu 83010).
Telerau defnyddio a hawlfraint
5. Mae defnydd masnachol neu gyhoeddi
unrhyw gynnwys sy'n cael ei ddangos ar y safle hwn wedi ei wahardd
oni bai y ceir caniatâd Gweithredu dros Blant. Ni fydd unrhyw beth
a gyhoeddir ar y safle hwn yn cael ei ddehongli fel
trwydded gan Gweithredu dros
Blant i ddefnyddio unrhyw gynnwys sy'n cael ei
ddangos.
6. Caniateir copïo dogfennau at
ddefnydd personol yn unig, a hynny ar yr amod bod y dynodiadau
hawlfraint a ffynonellau yn cael eu copïo hefyd; ni ddylid gwneud
unrhyw newidiadau i'r dogfennau a dylid eu cyhoeddi fel
cyfanweithiau. Fodd bynnag, mae rhai dogfennau a lluniau wedi eu
cyhoeddi ar y safle hwn gyda chaniatâd perchnogion yr hawlfraint
(nid Gweithredu dros Blant). Cedwir yr holl hawliau ar y dogfennau
hyn a gallwch wneud cais i berchnogion yr hawlfraint i'w copïo
(mae'r ffynonellau wedi eu nodi yn y dogfennau/lluniau
hyn).
7. Nid yw Gweithredu dros Blant yn
cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau
allanol.
8. Ni fydd unrhyw ddeunydd cyfathrebu
a osodir ar unrhyw faes o'r safle hwn, gan gynnwys gwybodaeth neu
ddeunydd tebyg, yn cael ei drin fel deunydd cyfrinachol; caiff ei
drin fel gwybodaeth ddiberchenogaeth.
9. Os
oes unrhyw wrthdaro rhwng y telerau ac amodau hyn a'r rheolau a/neu
delerau defnyddio penodol sy'n ymddangos ar y safle hwn sy'n
ymwneud â deunyddiau penodol, yna byddant yn disodli'r telerau ac
amodau.
10.
Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli
yn unol â chyfreithiau Cymru, Lloegr a'r Alban. Bydd unrhyw
anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth benodol Llysoedd Cymru,
Lloegr a'r Alban.
Os
nad ydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn, yna dylech
roi'r gorau i ddefnyddio'r safle hwn ar unwaith.