email newsletteremail newsletter

 

Ymgyrchoedd

Disabled -child -playing -keyboardMae ymgyrchu wrth wraidd Gweithredu dros Blant.

Rydym yn angerddol ynghylch gwneud popeth sy'n bosib i helpu plant a phobl ifanc i oresgyn tlodi ac anfantais.

Rydym yn cynnwys plant a phobl ifanc ar bob lefel o'n hymgyrchoedd ac yn eu helpu i siarad drostyn nhw eu hunain mor aml â phosib.

Ymgyrch esgeulustod 'Take your action for children'

Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei esgeuluso. Dyna pam ein bod yn cynnal ymgyrch tair blynedd i wneud y DU yn fwy ymwybodol o esgeulustod. Mae astudiaethau yn awgrymu bod hyd at 10 y cant o'r holl blant ym Mhrydain yn cael eu hesgeuluso. Mae hyn yn fwy na dwywaith nifer y plant a gafodd eu geni yn y DU yn 2007.

 

Ein gweithredoedd

Rydym yn ymgyrchu i wella'r ffordd y mae esgeuluso plant yn cael ei ddatrys, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymyrryd yn gynnar er mwyn helpu teuluoedd sy'n dechrau wynebu anawsterau, a hynny cyn iddynt droi yn broblemau hirdymor.

Rydym yn annog llywodraethau i wario mwy - ac yn ddoethach - ar wasanaethau cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac rydym yn casglu arian er mwyn datblygu mentrau effeithiol sydd wedi eu targedu er mwyn mynd i'r afael a phrif achosion esgeulustod. Rydym eisoes yn gweithio gyda miloedd o deuluoedd sy'n agored i niwed ond mae angen ein cymorth ar lawer iawn mwy ohonynt.

Beth allaf ei wneud?

Mae cymaint o bethau y mae'n bosib i chi eu gwneud er mwyn helpu plant sy'n dioddef esgeulustod, o ledaenu ein neges apêl i chwarae rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd codi arian.

Gwnewch bopeth sy'n bosib, pa mor fach bynnag ydyw, er mwyn cefnogi ein hymgyrch. Diolch.

 

Sign -our -petition -online


Llofnodi ein deiseb

Llofnodwch ein deiseb esgeuluso plant ar-lein neu ei llwytho i lawr a'i hargraffu

 

Donate -image -link


Cyfrannu

Cyfrannwch i'n hymgyrch esgeulustod 'Take your action for children'

Facebook


Facebook

Ewch i'n tudalen Facebook , gan ddod yn gefnogwr a diweddaru eich statws amdanom

YouTube


YouTube

Edrychwch ar fideos y sêr am esgeulustod a'u rhannu gyda ffrindiau

Twitter


Twitter

Dilynwch @aslongasittakes ac ewch ati i drydar drwy ddefnyddio #neglect

 

Parachuting -illustration


Codi arian

Codwch ychydig o arian a chael hwyl ar yr un pryd

 

Briefcase -illustration


Cwmnïau

Anogwch eich cwmni i ystyried partneriaeth gyda ni.


Tyfu'n Gryf

Mae ein hymgyrch Tyfu'n Gryf (Growing Strong) yn tynnu sylw at yr effaith sylweddol y mae lles emosiynol yn ei gael ar ddyfodol pobl ifanc.

Rydym yn ymgyrchu i roi pob dim mae ei angen ar y plant a'r bobl ifanc yng Nghymru sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu hesgeuluso, er mwyn iddynt oresgyn y trafferthion y maent yn eu hwynebu a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd bywyd.

Mae'r ymgyrch Tyfu'n Gryf eisoes wedi arwain at nifer o lwyddiannau yng Nghymru ac mae ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, mudiadau, ysgolion a'r cyfryngau yn parhau i fod yn ddylanwadol, gan gyfrannu tuag at hyrwyddo lles emosiynol plant a phobl ifanc.