Menu

Rydym wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers 1911. Llynedd gwnaethom helpu dros 22,000 o blant a phobl ifanc

(Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg | Read this page in English)

Rydym yn cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd bregus yng Nghymru gyda bron i 80 o brosiectau a gwasanaethau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector.

Gallwch ddilyn ein gwaith diweddarach ar Twitter a Facebook.

Mae Headlands wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o deulu. Mae nhw’n fy nghefnogi ac yn gwneud i mi deimlo’n falch ohonof fy hyn.

Myfyriwr o ysgol Headlands
Worried young girl looking at camera.jpg

Cefnogi teuluoedd

Mae ein prosiectau arloesol yn cefnogi plant a'u teuluoedd, o'r blynyddoedd cynnar i amseroedd o argyfwng.

Mae ein gwasanaethau seibiant preswyl byr yn rhoi amser o ansawdd oddi cartref i bobl ifanc anabl rhwng 6 a 18 oed. Maent hefyd yn rhoi seibiant mawr ei angen i deuluoedd.

Rydym yn gwneud gwaith therapiwtig gyda theuluoedd a phobl ifanc. Mewn ysgolion, mae ein rhaglen ‘Blues’ yn helpu plant i nodi a delio â straen.

Rydym yn cynnig cartrefi maeth a phreswyl diogel i bobl ifanc yn y sustem ofal, ac yn eu cefnogi wrth iddynt adael gofal. Ac mae ein hysgol Headlands yn agos i Gaerdydd yn cynnig gofal preswyl ac addysg i bobl ifanc ag anghenion cymhleth.

Maethu yng Nghymru

Rydym yn edrych am bobl cynnes, gofalgar sydd eisiau newid bywyd plentyn trwy roi cartref diogel a sefydlog iddynt. Mae ein gwasanaeth teulu-ganolog yn rhoi cefnogaeth arbenigol i deuluoedd maeth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod maethu plentyn yn brofiad gwerth chweil i’r teulu trwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn cynnig hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad i helpu gofalwyr maeth a’u plentyn maeth, ynghyd â lwfans teulu maeth hael a gweithgareddau i’r teulu trwy gydol y flwyddyn.

Happy son and father playing in woods

Ymgyrchu i newid y gyfraith yng Nghymru

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Senedd i newid deddfau a galluogi pob plentyn, person ifanc a theulu i ffynnu.

Rydym yn creu mewn rhyngblannu cynnar a gwneud yr hyn sy’n iawn i blant bregus. Mae ein tystiolaeth yn dod yn uniongyrchol gan bobl ifanc eu hunain.

Mae ein hymgyrchoedd yn canolbwyntio ar:

  • Gwella addysg, iechyd meddwl a lles plant
  • Cefnogi plant yn y sustem ofal
  • Lleihau anghydraddoldeb ym mlynyddoedd cynnar bywyd plentyn
  • Cefnogi plant trwy heriau bywyd
  • Grymuso pobl ifanc i ffynnu fel oedolion

Gyda’n cefnogwyr, gwnaethom helpu i newid y gyfraith ar gyfer plant mewn gofal. Cyn hyn roedd yn rhaid i’r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn gofal maeth yng Nghymru adael cartref rhwng 16 a 18 oed. Gallant nawr aros nes eu bod yn troi yn 21. Mae hyn yn rhoi cartref sefydlog iddynt am amser hirach.

Cefnogwch ein gwaith yng Nghymru

Gwneud rhodd, gwirfoddoli neu codi arian yn eich ardal chi

Cefnogwch ni

Ydych chi’n gomisiynydd?

Cysylltwch â ni i siarad am eich anghenion a sut y gall ein gwasanaethau wneud gwahaniaeth yn eich ardal chi.

Ffoniwch: 02920 222127