Menu

We know every family is different, and we tailor our approach to each one

We make sure we include everyone and encourage parents to participate. We see the best results for children when more individuals pull together, putting their energy, skills and time into a child's development and well-being.

We take a 'whole family approach', developing a relationship that works for the individual needs of each family member and child, taking care to listen and value everyone's needs.

We help under-fives get ready to start school. Children need social and communication skills to do well when they start school, and early years services are crucial. We provide extra support services such as play sessions, speech therapists, health intervention and parenting programmes.

We partner locally with health visitors, midwives and other professionals to ensure we have a huge pool of resources, knowledge and experience to make sure we provide the best places to help families flourish.

Welsh translation

Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys pawb ac yn annog rhieni i gymryd rhan. Po fwyaf o unigolion fydd yn dod at ei gilydd, gan roi eu hegni, eu sgiliau a’u hamser i ddatblygiad a lles plentyn, y gorau fydd y canlyniadau i blant.

Gwyddom fod pob teulu'n wahanol, a byddwn yn teilwra’r ddarpariaeth i bob un. Byddwn yn rhoi sylw i’r teulu cyfan fel rhan o’n gwaith, gan feithrin perthynas sy’n gweithio i anghenion unigol pob aelod o’r teulu a phob plentyn, a gofalu ein bod yn gwrando ar anghenion pawb ac yn gweld gwerth ynddynt.

Byddwn yn helpu plant dan bump oed i baratoi i ddechrau’r ysgol. Mae angen i blant gael sgiliau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol i wneud yn dda pan fyddant yn dechrau’r ysgol, ac mae gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig. Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth ychwanegol fel sesiynau chwarae, therapyddion iaith, ymyriadau iechyd a rhaglenni magu plant.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ymwelwyr iechyd, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol eraill yn yr ardal leol i sicrhau bod gennym ddigonedd o adnoddau, gwybodaeth a phrofiadau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r lleoedd gorau i helpu teuluoedd i ffynnu.