Welcome to Gelert West 🌟
Gelert West is a friendly home for up to six young people, with a team who genuinely care and always take time to listen. We understand that moving somewhere new can feel weird or unsettling, and we’re here to support you every step of the way.
Your Space 🛏️
You’ll have your own bedroom, decorated however you like.
The house also has:
- Two bathrooms
- A comfy lounge and games room
- A big kitchen‑diner where we eat and chat together
- A sunlounge for watching TV
- A garden with decking — perfect for relaxing outside
Your Key Worker 👤
You’ll have a key worker who:
- Supports you with appointments and meetings
- Chats privately with you whenever you need
- Stands up for you and makes sure your voice is heard
Even when they’re not around, any member of staff is always ready to help.
Day-to-Day Support 🤝
We can help with everyday things like:
- Getting ready for school
- Going to medical appointments
- Talking through anything that’s on your mind
Fun Stuff 🎉
We love getting out and about! Some of the things we do include:
- Bowling
- Cycling
- Laser tag
- Cinema trips
- Swimming
- Shopping trips
Food & Cooking 🍽️
We have a cook during the day who makes tasty meals.
If you enjoy cooking or baking, you’re welcome to help out in the evenings or at weekends - we love that!
How to refer
Our referral process consists of three stages that ensure we facilitate a positive experiencing and matching process. Our priority is providing a home for young people who can best benefit from what we offer here.
Stage 1
The referral information is gathered and assessed by the admissions panel to decide if the young person’s needs can potentially be met.
Stage 2
Further information is collected through visits and feedback from residential and school teams before the panel reviews suitability again.
Stage 3
The young person and family attend a visit, and a final decision is made about progressing to an overnight stay.
Croeso i Gelert West 🌟
Mae Gelert West yn gartref cyfeillgar i hyd at chwech o bobl ifanc, gyda thîm sy’n gofalu o ddifrif amdanynt ac sy’n barod i wrando bob amser. Rydym yn deall bod symud i rywle newydd yn gallu bod yn rhyfedd ac anghyfforddus, ac rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Eich Gofod 🛏️
Bydd gennych eich ystafell wely eich hun, wedi’i haddurno mewn arddull o’ch dewis.
Mae’r tŷ hefyd yn cynnwys:
- Dwy ystafell ymolchi
- Lolfa gyfforddus ac ystafell gemau
- Cegin-ystafell fwyta fawr lle byddwn yn bwyta a sgwrsio
- Ystafell haul i wylio teledu
- Gardd a decin — perffaith i ymlacio yn yr awyr agored
Eich Gweithiwr Allweddol 👤
Bydd gennych weithiwr allweddol a fydd yn:
- Eich helpu ag apwyntiadau a chyfarfodydd
- Sgwrsio’n breifat â chi pa bryd bynnag fydd angen
- Eiriol ar eich rhan a gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed
- Hyd yn oed os na fyddant o gwmpas, bydd aelod arall o staff yn barod i helpu bob amser.
Help o Ddydd i Ddydd 🤝
Gallwn eich helpu â phethau pob dydd fel:
- Paratoi ar gyfer yr ysgol
- Mynd i apwyntiadau meddygol
- Trafod unrhyw beth sy’n eich poeni
Hwyl 🎉
Rydym wrth ein bodd yn cael mynd allan i grwydro. Dyma rai o’r pethau rydym yn eu gwneud:
- Bowlio
- Seiclo
- Tagio laser
- Ymweld â’r sinema
- Nofio
- Siopa
- Certio
Bwyd a Choginio 🍽️
- Mae’r staff yn coginio cinio a the, ac yn ystod y dydd mi gewch fwyta yng nghaffi’r ysgol â’ch ffrindiau.
- Os ydych yn mwynhau coginio neu bobi, mae croeso i chi helpu fin nos neu ar benwythnosau – mi ydym yn hoffi hynny.
Sut mae atgyfeirio
Mae ein proses atgyfeirio’n cynnwys tri cham sy’n sicrhau ein bod yn hwyluso proses baru bositif. Ein blaenoriaeth yw darparu cartref i bobl ifanc a fydd yn elwa orau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yma.
Cam 1
Cesglir ac asesir yr wybodaeth atgyfeirio gan y panel derbyn i benderfynu a allwn ddiwallu anghenion y person ifanc.
Cam 2
Mae rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu drwy ymweliadau ac adborth gan dimau preswyl ac ysgol cyn i’r panel adolygu addasrwydd lleoli unwaith eto.
Cam 3
Mae’r person ifanc a’r teulu’n ymweld, a gwneir penderfyniad terfynol ynglŷn â symud ymlaen i arhosiad dros nos.