Menu
Donate

A safe and nurturing therapeutic children's home in a beautiful rural setting.

A high standard of care is provided by staff, who all have positive relationships with my child. I feel he is safe in Tan y Bryn and I am thankful for all they do.

About the Service

Tan y Bryn is a therapeutic residential home for up to five children and young people aged 7–18 years. We provide medium and long-term placements for local authorities across North Wales and bordering counties. Our children often come to us having experienced early trauma, neglect, abuse, or exploitation, which can lead to challenges such as self-harm, attachment difficulties, anxiety, and low self-esteem.

At Tan y Bryn, we offer a warm, homely environment with realistic boundaries, where children can feel safe, valued, and supported to recover and thrive. Our model of care is rooted in attachment theory and trauma-informed practice. We work closely with therapists and a clinical psychologist to create tailored therapeutic plans. Every child has a dedicated Link Worker to coordinate care and ensure their voice is heard.

The home itself is a spacious, modern property with en-suite bedrooms, a large kitchen/diner, games room, and wrap-around garden featuring a summer house, poly tunnels, and outdoor play areas. We encourage hobbies, education, and community activities to help children build confidence and independence.

I wish I could live here forever and not leave at 18.

How to access the service

All admissions are planned and agreed with the placing local authority. The process includes:

  • A detailed referral form and compatibility risk assessment
  • Introductory visits for the child and family
  • Meetings with the manager and Link Worker
  • A gradual transition plan, including tea visits and overnight stays

Emergency placements are not offered. For referral enquiries, please contact the Homes Manager at the details above.

Staff are excellent and are all lovely

Cartref plant therapiwtig diogel a gofalgar mewn lleoliad gwledig hardd.

Darperir gofal o safon uchel gan staff, sydd i gyd â pherthynas bositif â fy mhlentyn. Rwyf yn teimlo ei fod yn ddiogel yn Nhan y Bryn ac, rwyf yn ddiolchgar am bopeth maent yn ei wneud iddo.

Ynglŷn â’r Gwasanaeth

Mae Tan y Bryn yn gartref preswyl therapiwtig i hyd at bump o blant a phobl ifanc 7–18 oed. Rydym yn cynnig lleoliadau tymor hir a chanolig i awdurdodau lleol ledled Gogledd Cymru a’r siroedd cyfagos. Daw ein plant atom ar ôl profi trawma cynnar, esgeulustod, camdriniaeth, neu gamfanteisio, a all arwain at heriau fel hunan-niweidio, anawsterau ymlyniad, gorbryder, a lefelau isel o hunan barch.

Yn Nhan y Bryn, rydym yn cynnig awyrgylch cynnes, cartrefol gyda ffiniau realistig, lle gall plant deimlo’n ddiogel, a lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a’u helpu i wella a ffynnu. Mae ein model gofal wedi’i wreiddio mewn theori ymlyniad ac ymarfer ystyriol o drawma. Rydym yn cydweithio’n glos â therapyddion a seicolegydd clinigol i greu cynlluniau therapiwtig sydd wedi’u teilwra’n bwrpasol. Mae gan bob plentyn ei Weithiwr Cyswllt ei hun sy’n cydlynu gofal ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Mae’r cartref ei hun yn adeilad helaeth, modern gydag ystafelloedd gwely en-suite, cegin/ystafell fwyta fawr, ystafell gemau, a gardd o amgylch yr adeilad sy’n cynnwys tŷ haf, twneli tyfu, a mannau chwarae awyr agored. Rydym yn annog hobïau, addysg, a gweithgarwch cymunedol i helpu plant i fagu hyder ac annibyniaeth.

Mi fasa’n braf cael byw yma am byth a pheidio gorfod gadael yn 18 oed.

Sut i fanteisio ar y gwasanaeth

Mae’r holl dderbyniadau wedi’u cynllunio, gyda chytundeb yr awdurdod lleol sy’n lleoli. Mae’r broses yn cynnwys:

  • Ffurflen atgyfeirio fanwl ac asesiad risg i ystyried addasrwydd
  • Ymweliadau rhagarweiniol ar gyfer y plentyn a’r teulu
  • Cyfarfodydd â’r rheolwr a’r Gweithiwr Cyswllt
  • Cynllun pontio graddol, gydag ymweliadau amser te ac arosiadau dros nos

Ni chynigir lleoliadau argyfwng. Am ymholiadau am atgyfeiriadau, cysylltwch â Rheolwr y Cartref gan ddefnyddio’r manylion uchod.

Mae’r staff yn wych ac mae pob un yn hyfryd.