Menu
Donate

We provide respite care for children and young people who have severe learning disabilities and complex needs.

We are Ty Laura short breaks. We offer residential respite for children and young people from 5 years old until they turn 18. We are a 5 bedroom house based in Swansea.

We pride ourselves on providing a home from home for our children and young people. Our well-equipped and peaceful setting gives parents complete peace of mind while their children enjoy a night away at Ty Laura.

The service offers a safe, caring, child‑centred environment, where every young person is supported as an individual. Children can try new experiences, build friendships, develop social and practical life skills, and enjoy time away from home in a nurturing space designed with their needs in mind. The team provides:

  • A purpose‑built, accessible home, including themed single bedrooms, sensory spaces, adapted bathrooms, and enclosed gardens.
  • A highly trained staff group who deliver emotional, social and practical support, guided by therapeutic, child‑centred principles.
  • Opportunities to explore the community, join activities, and work towards outcomes that promote independence and wellbeing.

Ty Laura follows core principles:

  • Children’s needs, best interests and welfare come first.
  • Wishes and feelings are respected and listened to.
  • Children are always protected from harm.

Ty Laura is a referral‑only service for children living within the Swansea Local Authority area. If you would like more information please don't hesitate to contact us.

Tŷ Laura

Rydym yn darparu gofal seibiant i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu difrifol ac anghenion cymhleth.

Seibiannau Byr Tŷ Laura ydym ni. Rydym yn cynnig seibiannau preswyl i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed. Rydym yn dŷ 5 ystafell wely yn Abertawe.

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu lle cartrefol i’n plant a phobl ifanc. Mae ein lleoliad heddychlon gyda’r cyfarpar gorau yn rhoi tawelwch meddwl llwyr i rieni pan fydd eu plant yn mwynhau noson i ffwrdd yn Nhŷ Laura.

Mae ein gwasanaeth yn cynnig amgylchedd diogel, gofalgar, sy’n canolbwyntio ar y plentyn, lle bydd pob person ifanc yn cael eu trin fel unigolyn. Gall plant roi cynnig ar brofiadau newydd, gwneud ffrindiau, datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw ymarferol, a mwynhau amser i ffwrdd o’u cartref mewn gofod gofalgar sydd wedi’i gynllunio gyda golwg ar eu hanghenion. Mae’r lleoliad yn cynnig:

  • Cartref hygyrch, wedi’i adeiladu’n bwrpasol, sy’n cynnwys ystafelloedd sengl â’u themâu eu hunain, ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu, a gerddi caeedig.
  • Grŵp o staff wedi’i hyfforddi i lefel uchel sy’n darparu cymorth emosiynol, cymdeithasol ac ymarferol, wedi’i lywio gan egwyddorion therapiwtig, sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
  • Cyfleoedd i adnabod y gymuned, i ymuno mewn gweithgareddau, a gweithio tuag at ganlyniadau sy’n hybu annibyniaeth a llesiant.

Mae egwyddorion craidd Tŷ Laura yn cynnwys:

  • Mae anghenion, buddiannau pennaf a llesiant y plant yn flaenllaw.
  • Rydym yn parchu ac yn gwrando ar ddymuniadau a theimladau’r plant.
  • Mae’r plant yn cael eu gwarchod rhag niwed bob amser.
  • Mae Tŷ Laura yn wasanaeth atgyfeirio’n unig ar gyfer plant sy’n byw yn ardal Awdurdod Lleol Abertawe. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.